Jonah 4

Jona'n wyllt am fod Duw wedi maddau

1Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio'n lân. 2Dyma fe'n gweddïo:

O Arglwydd, plîs na! Ro'n i'n gwybod mai dyma fyddai'n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish!

Ti'n Dduw mor garedig a thrugarog,
mor amyneddgar ac anhygoel o hael,
a ddim yn hoffi cosbi! a

3Lladd fi! Mae'n well gen i farw na byw i weld hyn!

4Dyma'r Arglwydd yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma?”

5Dyma Jona'n mynd allan o'r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo'i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd i Ninefe.

6A dyma'r Arglwydd Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.

7Ond yn gynnar iawn y bore wedyn dyma Duw yn anfon pryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo. 8Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!”

9Ond dyma'r Arglwydd yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i yn wyllt!”

10A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho:

“Ti wedi cynhyrfu am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo'r diwrnod wedyn! 11Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed
4:11 ddiniwed Hebraeg, “sy'n methu gwahaniaethu rhwng y llaw chwith a'r llaw dde”
yn byw ynddi – a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”

Copyright information for CYM